Dillad 
Sicrhewch fod pob dilledyn wedi cael eu labelu.
Ymarfer Gorff 
Dydd Llun
Rhaid labelu bob dilledyn – siorts/ crys-t (lliwiau’r llys) a thraeners.
Darllen 
Mae angen dod â llyfrau darllen a llyfr cofnod darllen i’r ysgol bob dydd. Os yw eich plentyn yn ymarfer geiriau gweledol yn y bore, rhaid cofio ddod â’r pecynnau.
Gwaith Cartref 
Bydd y plant yn derbyn gwaith cartref drwy gydol y flwyddyn, yn ^ol yr angen. Darperir digon o amser ar gyfer eu cyflawni.
Amser Byrbryd 
Rydym yn annog y plant i ddod â darn o ffrwyth i’r ysgol ar gyfer eu byrbryd bob dydd. Rhaid hysbysu’r athrawes os nad yw eich plentyn fod derbyn llaeth. Anogwyd pob plentyn i ddod â photel dŵr.
Arian Cinio 
Rhaid i arian cinio neu arian trip gyrraedd yr ysgol mewn amlen gyda’r enw’r plentyn wedi labelu’n glir. Mae angen i’r plant bostio’r amlenni yn y bocsys arian cinio.
Themau 
Pobl sy’n ein helpu
Da, drwg a swnllyd
Anifieiliad y sw